Asesu eich staff
Pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu, bydd angen i chi asesu staff sydd wedi gadael eich cynllun pensiwn neu wedi lleihau eu cyfraniadau i weld a oes angen i chi eu hailgofrestru yn eich cynllun.
- rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth
- yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis, neu £192 yr wythnos
mae'n rhaid ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn ac mae'n rhaid ichi'ch dau gyfrannu tuag ato. Does dim modd ichi ohirio er mwyn oedi asesu'ch staff.
Os ydy unrhyw un o'ch staff yn ieuengach neu'n hŷn na'r oedran uchod a'r meini prawf o ran enillion, yna does ond rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn os ydyn nhw'n gofyn am ymuno ag un.
Does gen i ddim staff sydd angen eu hail-gofrestru ar gynllun pensiwn
Rhaid i chi lenwi a chyflwyno eich ffurflen ail-ddatganiad cydymffurfio cyn pen pum mis iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig.
Ydy hi wedi bod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau cofrestru awtomatig neu eich dyddiad gweithredu?
Caiff y dyddiad rydych chi’n asesu eich staff arno ei alw’n ddyddiad ailgofrestru. Os nad ydych wedi asesu eich staff o fewn chwe wythnos i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu, gallwch wneud hyn ar unrhyw ddyddiad hyd at dri mis ar ôl hynny. Defnyddiwch ein hadnodd dyddiad ail-gofrestru i weld y dyddiadau sydd ar gael.
Ni fydd eich dyddiad terfyn ar gyfer ail-ddatgan yn newid os ydych chi'n dewis dyddiad gwahanol er mwyn asesu'ch staff. Rhaid i chi lenwi a chyflwyno eich ffurflen ailddatganiad cydymffurfio cyn pen pum mis iddi fod yn dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu’ch dyddiad gweithredu cofrestru awtomatig.
Does dim rhaid ichi ddatgan eich dyddiad ail-gofrestru nes ein bod yn gofyn amdano yn eich ail-ddatganiad cydymffurfio.
Ail-gofrestru eich staff ar eich cynllun pensiwn
Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu (neu’r dyddiad hwyrach y penderfynoch asesu eich staff arno).
Unwaith ichi ganfod pa staff sydd angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn, rŵan fe fydd yn rhaid ichi eu hail-gofrestru a chychwyn cyfrannu at y cynllun.
Byddwch yn ail-gofrestru eich staff ar gynllun pensiwn yn dilyn yr un broses er mwyn cofrestru eich staff ar y cynllun am y tro cyntaf. Bydd angen ichi wneud y canlynol:
- Anfon manylion y staff rydych yn eu cofrestru ar gynllun pensiwn at eich darparwr pensiwn yn fuan. Mae'n rhaid ichi rannu'r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cofrestru'ch staff ar y cynllun pensiwn am y tro cyntaf gyda'ch darparwr cynllun pensiwn.
- Canfod faint sydd angen ichi a'ch staff gyfrannu at y cynllun a threfnu'r taliadau. Darganfod mwy am dalu cyfraniadau at eich cynllun pensiwn. Mae'n bosib y bydd eich meddalwedd cyflogres yn eich helpu i wneud hyn.
Os ydych chi'n dal yn ansicr o'r broses, cysylltwch gyda'ch darparwr cynllun pensiwn.
Os oes unrhyw un o'ch staff yn dewis dadgofrestru o'ch cynllun pensiwn (optio allan) ymhen un mis o gael eu hail-gofrestru, mae'n rhaid ichi beidio â didynnu arian o'u cyflog a threfnu ad-daliad llawn o beth sydd wedi'i dalu hyd yn hyn.